O ble mae’n harian yn dod?

English | Cymraeg

Elusen annibynnol ydym ni. Yma, cewch ddarllen am ffynonellau’r arian sy’n talu am ein gwaith i leihau niwed alcohol difrifol.

Ar hyn o bryd, daw ein hincwm o bedair prif ffynhonnell:

  • Ein cronfa fuddsoddi
  • Grantiau
  • Rhoddion gan ein cefnogwyr
  • Ffïoedd am waith ymgynghori a hyfforddi

Ein cronfa fuddsoddi

Mae hanes hir i’n cronfa fuddsoddi. O dan Ddeddf Drwyddedu 1904, cyflwynwyd ‘Cynlluniau Iawn-dâl Trwyddedu’. Codwyd ardoll ar safleoedd trwyddedig er mwyn digolledu tafarnwyr eraill y caewyd eu tafarndai fel rhan o waith i leihau faint o dafarndai oedd mewn rhai mannau. Aeth y cynllun i’r gwellt yn raddol, ond roedd gwaddol ariannol sylweddol.

O dan Deddf Trwyddedu (Addysg ac Ymchwil Alcohol) 1981, defnyddiwyd hanner y gwaddol i sefydlu y Cyngor Addysg ac Ymchwil Alcohol (AERC). Yn 2011, diddymwyd y Cyngor, ac yn ei le sefydlwyd yr elusen Alcohol Research UK, gyda rheolaeth dros y gwaddol. Wedi iddi gyfuno ag Alcohol Concern ar 1 Ebrill 2017, newidiodd Alcohol Research UK ei enw gweithredol i Alcohol Change UK ar 19 Tachwedd 2018.

Gall ymddiriedolwyr yr elusen ddewis gwario’r incwm o’r buddsoddiadau, neu werthu’r buddsoddiadau eu hunain, ond dim ond os gwneir hynny yn unol ag amcanion elusennol Alcohol Change UK, sef “lleihau’r niwed i unigolion, teuluoedd a chymunedau sy’n deillio o alcohol”.

Grantiau

Mae llywodraethau ac ymddiriedolaethau yn rhoi grantiau i ni er mwyn i ni gyflawni ein gwaith. Yn aml iawn, er nad pob tro, bydd y rhain ar gyfer gwaith penodol. Er enghraifft, ar hyn o bryd derbyniwn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith i leihau niwed alcohol ar draws Cymru. Cawn arian hefyd gan Elusen Maudsley er mwyn cyllido ein prosiect arloesol i roi cymorth trwy gysylltiad fideo ar-lein.

Rhoddion gan ein cefnogwyr

Mae miloedd lawer o bobl ar draws y wlad sy’n awyddus i leihau’r niwed sy’n dod o oryfed. Mae llawer o’r bobl hyn yn rhoi arian i ni yn rheolaidd neu’n codi arian trwy drefnu digwyddiadau a sialensiau. Rydym ni’n ddiolchgar tu hwnt i bob un ohonynt.

Ffïoedd am waith ymgynghori a hyfforddi

Mae ein tîm ymgynghori a hyfforddi yn gweithio gyda chomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau triniaeth alcohol lleol er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol fyth. Byddwn ni hefyd yn cefnogi gwahanol gyflogwyr sy’n ceisio creu gweithleoedd mwy iachus a mwy diogel. Codwn ffïoedd am y ddau wasanaeth hyn.

Ni dderbyniwn arian gan y diwydiant alcohol

Nid ydym yn derbyn arian gan y diwydiant alcohol. Daw’r rhan unigol fwyaf o’n hincwm o’n cronfa fuddsoddi, ac mae ein polisi buddsoddi yn ein gwahardd rhag “buddsoddi mewn cwmnïau sy’n cynhyrchu diodydd alcoholaidd neu dybaco yn ogystal â chwmnïau sy’n cael mwy nag 20% o’u gwerthiannau o werthu neu ddosbarthu’r fath nwyddau. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd sy’n caniatáu buddsoddi yn y fath gwmnïau. Rydym yn annog ein rheolwyr buddsoddi i sgrinio cwmnïau o ran ystyriaethau moesegol a chynaliadwyedd.”