Rwy’n credu bod fy rhiant yn yfed gormod

English | Cymraeg

Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod nad oes rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun: mae cefnogaeth a chymorth ar gael.

Allwch chi ddim rheoli faint o alcohol mae aelodau o’ch teulu yn ei yfed (ac nid chi sy’n gyfrifol am hynny) ond gallwch chi gael cymorth i chi a gweddill y teulu, gan gynnwys y person sy’n yfed, o bosib.

Nid chi sy’n gyfrifol am faint maen nhw’n ei yfed

Cofiwch na allwch chi reoli faint mae rhywun arall yn ei yfed – bydd ganddyn nhw eu rhesymau eu hunain dros yfed, ac nid eich bai chi ydyn nhw. Nid chi yw’r rheswm maen nhw’n yfed, a dyletswydd eich rhiant yw bod yn gyfrifol am eu hymddygiad yfed ei hun a cheisio cymorth proffesiynol.

Mae eich teimladau chi yn bwysig

Mae byw gyda rhiant neu ofalwr sy’n ddibynnol ar alcohol yn gallu gwneud i chi deimlo’n bryderus, yn unig, yn drist ac yn ddig, a hyd yn oed wneud i chi deimlo cywilydd. Efallai byddwch chi hefyd yn teimlo’n rhwystredig os byddan nhw’n addo rhoi’r gorau i yfed ac yna’n methu. Efallai na fyddwch chi’n cael y cymorth na’r gofal gan eich rhiant sydd ei angen arnoch. Mae’r teimladau hyn yn hollol normal, ac mae eich teimladau chi yn bwysig.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Mae mae llawer o filoedd o blant byw mewn gydag oedolyn sy’n ddibynnol ar alcohol ac sydd angen triniaeth arbenigol.

Ydy fy rhiant neu fy ngofalwr yn yfed gormod?

Mae’n bosibl bod eich rhiant neu’ch ofalwr fod yn yfed gormod:

  • os nad ydyn nhw’n gallu rheoli faint maen nhw’n ei yfed
  • os ydy eu hymddygiad yn newid oherwydd eu bod nhw’n yfed
  • os ydy eu harferion yn yfed yn achosi problemau i’ch bywyd teuluol

Beth i’w wneud os oes angen help arnoch chi

  • Os ydych chi’n credu bod eich rhiant/rhieni yn yfed gormod, cysylltwch â Childline ar 0800 1111 i gael cyngor a chymort
  • Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Alcoholigion lawer o wybodaeth i blant (a’u rhieni) ar ei gwefan. Ewch i nacoa.org.uk neu ffoniwch 0800 358 3456
  • Mae grwpiau teuluoedd Al-Anon yn rhoi cymorth i unrhyw sy’n byw gydag effeithiau arferion yfed rhywun arall, neu wedi cael y fath brofiad o’r blaen, p’un a yw’r person arall hwnnw yn dal i yfed ai peidio. Ewch at al-anon-uk.org.uk
  • Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wasanaethau cymorth drwy Adfam. Ewch i adfam.org.uk