Y ddiod a phob dim arall: Nid alcohol yw’r unig broblem bob tro

English | Cymraeg

18 Medi 2019
09:00-16:00
Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Crispin Lane, Wrecsam LL11 2HS

Cynhadledd flynyddol Alcohol Change UK yng Nghymru

Cynhaliwyd y gynhadledd hon ym Medi 2019. Cafwyd diwrnod difyr a diddorol ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r siaradwyr a’r cynadleddwyr am wneud y cyfan yn gymaint o lwyddiant! ​

Mae’r cyflwyniadau o’r diwrnod ar gael yma, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi’r flwyddyn nesaf!​

Cyflwyniadau’r gynhadledd

Cefndir

Mae’r gynhadledd hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n frwd dros leihau niwed a hybu lles. Yn ystod y digwyddiad amlddisgyblaethol hwn, byddwn ni’n hoelio sylw ar sut i ddarparu’r gefnogaeth orau i’r rhai sydd ddim bob tro’n cwrdd â’r meini prawf arferol ar gyfer triniaeth – gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

Efallai mai un arwydd yw eu harferion yfed o’r anawsterau yn eu bywydau – gan gynnwys ffurfiau eraill ar ymddygiad peryglus neu niweidiol, aflonyddwch meddwl parhaol, ac anawsterau deall a defnyddio gwasanaethau. Yn wyneb y fath anghenion cymhleth, mae rhaid i wasanaethau alcohol ddeall llawer mwy nag alcohol. Mae rhaid hefyd i wasanaethau eraill, fel gwasanaethau tai, gofal iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys ddeall sut mae alcohol yn rhan o’r cymhlethdod.

  • Yn ystod y diwrnod, bydd arbenigwyr mewn sawl maes yn ein helpu ni i fynd i’r afael ag amryw bynciau, gan gynnwys:Pam na ddylid trin iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau fel dau fater ar wahân
  • Beth i’w wneud am Brofiadau Niweidiol Plentyndod (ACEs), a beth i beidio â’i wneud
  • Sut i wneud y gorau dros gleientiaid awtistig
  • Sut mae camddefnyddio alcohol ac anhwylderau bwyta yn gallu effeithio ar ei gilydd
  • Sut i gefnogi’r rhai sy’n goryfed ac yn gamblo’n ormodol

Byddwn ni hefyd yn clywed gan y newyddiadurwr ac awdur arobryn Catherine Gray am ei hugain mlynedd o yfed trwm a phleserau annisgwyl sobrwydd.

Os ydych chi wedi cadw eich lle ond yn methu dod i’r gynhadledd, cewch chi roi eich tocyn i gydweithiwr. Os byddwch chi am ganslo’ch tocyn, gallwch chi wneud hynny trwy ein tudalen Eventbrite.

Os canslwch chi eich tocynnau cyn 11 Medi 2019, byddwn ni’n ad-adlu’n llawn.

Os canslwch chi ar ôl hynny, fyddwn ni ddim yn ad-dalu ond cewch chi ddanfon cydweithiwr yn eich lle.

Crowd Scene Istock 481859798

Y ddiod a phob dim arall: Nid alcohol yw’r unig broblem bob tro

Darllenwch yr agenda llawn.