Cydnabod y person cyfan: Alcohol, iechyd meddwl ac anghenion amrywiol

English | Cymraeg

Gwyliwch y cyflwyniadau fideo o gynhadledd ar-lein gyntaf Alcohol Change UK, a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2020

Os yw eich bryd chi ar leihau niwed, dyma ddigwyddiad dylech chi ei fynychu. Os ydych chi am gyd-gerdded gyda phobl wrth iddyn nhw goncro heriau eu gorffennol a’u presennol, a symud tuag at well dyfodol, gallwn ni eich helpu chi yn ystod y daith. Os ydych chi’n ymchwilydd, ymarferydd, comisiynwr, clinigwr, neu weithiwr gwasanaethau brys, cewch chi olwg newydd ar hen broblemau, gwybodaeth am yr ymchwil ddiweddaraf, a chyfle i greu cysylltiadau newydd yn ein cynhadledd ni.

Yn aml, dim ond un arwydd yw goryfed o’r rhwystrau cymhleth ar lwybr bywyd rhywun. Efallai fod alcohol yn fodd i ymdopi â thrawma dwfn neu ofid parhaol. Weithiau daw â rhagor o drallodion yn ei sgîl, fel iselder ysbryd neu anhawster deall a dirnad.

Does dim atebion syml i’r fath anghenion cymhleth. Dyna’r rheswm y galwasom ynghyd gasgliad aml-ddisgyblaeth o academyddion, ymarferwyr, a phobl gyda phrofiad personol o’r fath broblemau, er mwyn ein helpu ni i gyd i weithio tuag at gymorth sy’n cydnabod y person cyfan.

Am gwta £30, cewch chi fynediad i saith cyflwyniad fideo o’r gynhadledd, gan siaradwyr arbenigol amrywiol:

  • Araith agoriadol: Josh Connolly yn adrodd hanes ei fywyd fel plentyn i yfwr dibynnol, a sut y dysgodd e fod yn fregus ac yn gadarn
  • Victoria Williams, Therapydd Cyn-filwyr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn sôn am sut i gefnogi cyn-filwyr sy’n byw gyda straen ar ôl trawma ac yn camddefnyddio alcohol
  • Yr Athro Bev John o Brifysgol De Cymru, ar godi ymwybyddiaeth a lleihau’r cywilydd ynghylch niwed alcohol i’r ymennydd (ARBD)
  • Seiat brofiad: Chelsey Flood, Scott Pearson a Marcus Barnes yn siarad am yfed, peidio ag yfed, a sut mae alcohol weithiau yn diffinio ein hunaniaeth
  • Dr Sharon Cox o Goleg Prifysgol Llundain, ar bwysigrwydd cynorthwyo yfwyr bregus i roi’r gorai i smygu
  • Mike Ward o Alcohol Change UK, ar weithio gyda’r yfwyr mwyaf anystywallt a chyndyn i newid
  • Joe Fisher o brosiect Golden Key ym Mryste, yn disgrifio eu gwaith ymarferol iawn gyda phobl â’r anghenion mwyaf cymhleth.

Mae pob cyflwyniad yn para am tuag 20 munud, ar wahân i Seiat brofiad, sydd tua 50 munud ar ei hyd.

Peidiwch â cholli’r cyfle – ewch draw i’n siop ni heddiw i brynu’r sgyrsiau difyr a diddorol.

Archebwch nhw nawr