Beth yw triniaeth alcohol?

English | Cymraeg

Os yw yfed yn achosi problemau i chi, mae cymorth a chefnogaeth wrth law.

‘Triniaeth alcohol’ yw’r enw arferol ar raglen o gefnogaeth sydd wedi’i llunio’n arbennig i helpu pobl sy’n yfed yn ddrwm neu’n ddibynnol ar alcohol.

Peth anodd weithiau yw penderfynu derbyn triniaeth. Mae angen cydnabod bod gennych chi broblem sydd angen ei thrin, cael gwybod ba fath o driniaeth fyddai orau i chi, a ble mae hi ar gael; ac wedyn cychwyn arni.

Cymorth i newid eich arferion yfed

I unrhyw un sy’n teimlo iddyn nhw golli rheolaeth ar faint maen nhw’n ei yfed, mae’r cyfan yn gallu teimlo’n ormod. Ond, bob blwyddyn mae llawer iawn o bobl yn llwyddo i oresgyn problemau alcohol difrifol a symud ymlaen. Mae rhai yn ei wneud â chymorth grwpiau fel Alcoholigion Anhysbys. Mae rhai eraill yn llwyddo heb ddim cefnogaeth ffurfiol (ond yn aml gyda chymorth eu teulu a’u ffrindiau). Ac mae rhai eraill yn droi at ryw fath o driniaeth.

Mae llawer math o driniaeth i’w cael – o grwpiau cymorth i ganolfannau preswyl.

Ble dylwn i ddechrau?

Un lle da i ddechrau yw’r cwis yfed yma. Os atebwch chi’r cwestiynau’n hollol onest, bydd gennych chi well syniad pa fath o gefnogaeth fyddai orau i chi.

Os ydych chi’n meddwl efallai fod angen cymorth arnoch chi, cofiwch fod y rhan fwyaf o bobl yn gallu newid sut maen nhw’n yfed. Ymhen ychydig o wythnosau mae rhai pobl yn gallu gwneud newidiadau mawr i’w bywydau nhw.

I rai eraill, mae’r daith tuag at wella yn un hirach ac mae angen mwy o gymorth arnyn nhw.

Pa fathau o driniaeth sydd ar gael?

Mae triniaeth alcohol ar gael yn rhad ac am ddim, naill gan y Gwasanaeth Iechyd neu gan elusennau lleol. Does dim rhaid i chi dalu, er bod talu am wasanaeth preifat yn opsiwn os ydych chi’n dymuno.

Eich doctor

Mae’ch meddygfa leol yn lle da i ddechrau cael gwybod mwy. Bydd eich meddyg yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich bro, a gall e neu hi eich helpu chi ynglŷn â’r pethau canlynol:

  • Arolwg o’ch iechyd cyffredinol, ac unrhyw brofion penodol
  • Moddion a thriniaethau eraill ar gyfer unrhyw broblemau eraill, fel iselder, pryder neu drafferth cysgu
  • Moddion i leihau’r awydd i yfed
  • Eich cyfeirio at wasanaethau triniaeth lleol

Gwasanaethau triniaeth alcohol lleol

Gallwch chithau hefyd gysylltu â gwasanaethau triniaeth alcohol eich hunan i drefnu cwrdd â nhw. Bydd gwasanaethau triniaeth yn cynnig rhai (neu bob un) o’r canlynol:

  • Cwnsela uni-un
  • Cefnogaeth a chwnsela mewn grŵp
  • Rhaglenni therapy
  • Moddion i gefnogi gwellhad
  • ‘Detox’ (i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol)
  • Cefnogaeth i deuluoedd rhywun sy’n yfed yn drwm
  • Eich cyfeirio at gymorth iechyd meddwl
  • Cyfle i aros mewn canolfan breswyl

Sut dof i o hyd i asiantaeth leol i fy helpu?

Ble bynnag rydych chi’n byw, bydd gwasanaeth yn eich bro sy’n helpu pobl gyda phroblemau alcohol. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol i weld beth sydd ar gael, neu siaradwch â’ch meddyg.

Mae hefyd sawl rhestr ar-lein o wasanaethau alcohol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn gwahanol rannau o Brydain:

Mae wyth o brif asiantaethau triniaeth alcohol Prydain wedi dod ynghyd o dan y faner Collective Voice. Mae eu gwefan nhw yn cynnwys gwybodaeth am y triniaethau a gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig a pha ardaloedd maen nhw’n eu gwasanaethu. Bydd eisiau i chi glicio ar wefannau’r asiantaethau unigol i weld ble mae eu canolfannau. Maen nhw i gyd yn cynnig gwasanaethau i bobl sy’n dioddef oherwydd yfed gan rywun arall.

Gall fod yn ddefnyddiol i chi chwilota trwy eu gwefannau er mwyn gweld beth maen nhw’n ei gynnig. Mae croeso i chi eu ffonio neu’u e-bostio nhw i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch chi gael gwybod mwy am wasanaethau triniaeth lleol trwy DACW, sy’n gonsortiwm o asiantaethau cymorth Cymru.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio chwiliadur ar-lein a theipio i mewn ‘NHS alcohol services’ ac enw’r dref agosaf i chi, er mwyn dod o hyd o glinig yn eich bro.

Pan ewch chi i’r gwasanaeth, byddan nhw’n cynnig gwneud asesiad. Byddan nhw eisiau gwybod rhywfaint amdanoch chi, ac efallai bydd angen i chi lenwi ambell ffurflen. Wedyn byddan nhw’n siarad â chi am ba newidiadau rydych chi eisiau eu gwneud, fel yfed llai neu roi’r gorau yn gyfan gwbl.

Beth fydd rhaid i mi wneud?

Fel arfer, mae triniaeth yn gyfuniad o gwnsela personol sesiynau grŵp.

Eich helpu i ddeall eich sefyllfa yw’r nod, ynghyd â chryfhau’ch ewyllys i newid, a sylweddoli bod digon o bobl eraill yn yr un cwch â chi.

Y rhan fwyaf o’r amser, bydd rhaglen driniaeth yn y gymuned yn para am ryw dri mis – ond mae hyn yn amrywio.

Cymorth gan bobl yn yr un cwch

Yn ogystal â mynychu gwasanaeth triniaeth, mae’n gallu bod yn eithriadol o helpfawr i chi gymryd rhan mewn grŵp o bobl sy’n mynd trwy’r un profiadau â chi. Yn aml, bydd gwasanaethau triniaeth yn cynnal y fath grwpiau. Y ddau rwydwaith mwyaf adnabyddus o grwpiau fel hyn yw:

Alcoholigion Anhysbys (AA)

Mae’r grwpiau hyn yn cael eu trefnu gan wirfoddolwyr sydd wedi profi problemau alcohol ac sy’n ymdrechu i aros yn sobr. Gallwch chi fynychu os ydych chi wedi llwyddo i roi’r gorau i yfed neu beidio. Mae pobl weithiau’n sôn am AA fel rhaglen Deuddeg Cam, gan fod un-deg-dau o gamau mae aelodau’n ceisio eu dilyn er mwyn aros yn sobr.

SMART Recovery

Mae’r grwpiau hyn hefyd yn cael eu trefnu gan wirfoddolwyr sy’n gwella o ddibyniaeth. Mae nhw wedi’u seilio ar egwyddorion therapi ymddygiadol gwybyddol (‘cognitive behavioural therapy’) ac yn cefnogi aelodau i newid sut maen nhw’n meddwl ac ymddwyn ynglŷn ag alcohol (neu gyffuriau eraill), er mwyn cefnu ar arferion niweidiol.

Oes rhaid mi roi’r gorau i yfed yn gyfan gwbl?

Dyw triniaeth alcohol ddim yn arwain bob tro at beidio ag yfed byth eto, er mai dyna’r canlyniad i rai pobl. Gallwch chi siarad â staff eich gwasanaeth triniaeth am beth sydd orau i chi:

Rheoli eich yfed

Mae llawer o bobl eisiau newid fel maen nhw’n yfed yn hytrach na rhoi’r gorau iddo’n gyfan gwbl. Mae’n bosibl gwneud hyn trwy reoli eich yfed. Bydd gweithiwr triniaeth yn gallu eich helpu chi i osod targedi ar gyfer datblygu arferion yfed newid dros gyfnod o amser.

Ymwrthod yn llwyr

Os ydych chi’n ddibynnol ar alcohol, mae’n bosibl mai ceisio cefnu ar y ddiod yn llwyr fydd y dewis i chi. Mae modd gwneud hyn gyda chymorth gwasanaethau cefnogi, a ddylech chi ddim trio peidio ag yfed yn sydyn heb y fath gefnogaeth, gan fod hynny’n gallu bod yn beryglus iawn. Syniad da yw siarad â’ch meddyg neu gysylltu â gwasanaeth triniaeth alcohol er mwyn penderfynu beth yw’r ffordd orau ymlaen i chi.