Becks Blue Lemon

English | Cymraeg

Ein barn ar Becks Blue Lemon

Sgôr:

1/5

Cryfder: 0.05%
Calorïau ymhob potelaid: 63 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 1 o 5

Cafodd hwn ei lansio gan ABInBev yn 2016 fel y “ffordd adfywiol i aros ar flaenau’ch traed”. Gan nad yw’n fwy na 0.05% o ran ei gryfder, fydd e ddim yn cymylu’ch pen. Yn anffodus, wnaeth e fawr ddim arall i ni chwaith.

Yn ôl y bragwyr, “treftadaeth Almaenig yw brand Becks i gyd”. Mae’n wir fod gan gwrw lemwn dipyn o hanes yn yr Almaen. Cyn belled yn ôl â’r 1920au, cafodd y radler ei ddyfeisio i dorri syched seiclwyr y mynyddoedd, trwy gymysgu lager a lemonêd. Go brin mai dyna’n union wnaeth y Becks Brauerei yn yr achos yma, ond gellid maddau i chi am gredu hynny. Yn hytrach na chwrw ffrwythaidd, y peth sydd gyda ni yma, yn y bôn, yw siandi, a ddim yn siandi arbennig o dda gwaetha’r modd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​