Braxzz Orange IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Braxzz Orange IPA

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.2%
Calorïau ymhob potelaid: 89 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

O’r tri chwrw Braxzz sydd wedi cyrraedd y farchnad yn 2018, mae’n debyg mai hwn yw’r mwyaf anghyffredin. Dyw hi ddim yn glir ydyn nhw’n rhoi orenau ynddo fe, ynteu ydy’r enw yn gyfeiriad at hoffter yr Iseldirwyr am bob dim oren. Mae’n blasu mwy fel eirin gwlanog.

At ei gilydd, mae’n gwrw ffrwythaidd dymunol, ac mae chwerwder yr hopys yn cydbwyso melystra’r ffrwythau (pa rai bynnag ydyn nhw). Dim hwn yw ein hoff gwrw gan Braxzz, ond yn sicr mae’n werth ei drio.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​