BrewDog Elvis AF

English | Cymraeg

A Review of BrewDog Elvis AF

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 26 (8 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae bragwyr BrewDog yn adnabyddus am wthio ffiniau, ac maen nhw wedi parhau yn yr un modd wrth greu cyrfau llai alcoholaidd. Mae Elvis Juice yn un o’u diodydd mwyaf poblogaidd, ac mae’r fersiwn llai cryf yma yn sicr o fod yn ffefryn hefyd. Mae iddo liw euraidd hyfryd a digon o ewyn sy’n para’n dda. Mae’r arogl grawnffrwyth yn ddymunol iawn. Mae’r ddiod fel siandi grawnffrwyth ond heb felystra arferol siandi. At ei gilydd, dyma ddiod adfywiol, braf. Mae hi hefyd yn rhyfeddol o brin o galorïau.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​