Mikkeller Passion Pool Shallow

English | Cymraeg

Ein barn ar Mikkeller Passion Pool Shallow

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.2%
Calorïau ymhob can: 167 (38 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Tim Jenkins o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Tim ar Twitter @afbeerexplorer

Daw Passion Pool Shallow o fragdy Mikkeller yn Nenmarc, gan gynnig fersiwn di-alcohol o’u Passion Pool Gose.

Mae Mikkeller yn cynnig amrywiaeth fawr o gyrfau di-alcohol, gan gynnwys eu cwrw poblogaidd Drink In the Sun, eu casgliad Limbo o gyrfau ffrwythus di-alcohol, a’u cwrw “Cyntefig Fflandrysaidd” Henry & His Science. Fel pob un o’u diodydd, mae Passion Pool Shallow wedi’i fragu yn De Prouef Brouwerji yng Ngwlad Belg. Yn union fel maen nhw’n ei wneud gyda’u cyrfau alcoholaidd, mae Mikkeller yn hoffi arbrofi wrth greu eu cyrfau di-alcohol a dangos mor amrywiol gall cwrw fod.

Cyn gynted ag agorwch chi’r can mae arogl ffrwythus cryf ffrwythau’r pasiwn. Wrth ei dywallt i’r grwydryn, mae iddo liw oren llachar. Mae hi i’w gweld yn ddiod eithaf trwchus. Yn wir, mae’r olwg a’r arogl yn debyg i sudd ffrwyth. O’r gegaid gyntaf – yn ôl y disgwyl ar sail yr olwg a’r arogl – mae blas ffrwyth pasiwn cryf. Mae iddo flas awchus iawn ac mae’n gorffen gyda mymryn o halltineb fel cwrw gose. Mae’n teimlo’n eithaf trwchus a llyfn yn y geg ond yn gadael sychder ar eich gwefusau.

Mae hon ddiod ddymunol iawn – delfrydol ar gyfer ei hyfed yn yr haul. Ond yn fy marn i, dyw e ddim wir yn gwrw, ac fe gewch chi’r un blasau (heb yr halltineb) am bris llawer llai, trwy brynu sudd ffrwyth. Er hynny, dwi’n hoff iawn o’r can, gyda lluniau o gymeriad adnabyddus Henry yn mwynhau nofio gyda ffrwythau!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​