Franziskaner Weissbier

English | Cymraeg

Ein barn ar Franziskaner Weissbier

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 105 (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Os ydych chi’n hoffi’ch cwrw mymryn yn gymylog gyda rhyw awgrym o berlysiau, dyma’r un i chi. Ers yr 1990au, pan ddechreuodd Heogaarden ymddangos yn ein tafarndai, mae’r ddiod sy’n cael ei galw’n naill ai’n witbier, weißbier, neu weissbierwedi ennill troedle da ym marchnad gwrw Prydain (er nad yw wedi disodli cyrfau eraill yn y modd roedd rhai yn ei ddarogan). P’un bynnag yw eich dewis derm, mae Franziskaner yn un o’r rhai gorau.

Os oes coel ar y chwedl, mae mynachod Ffransiscaidd Munich yn bragu cwrw ers 1363. Ond nid tan 1984 y dechreuwyd gwerthu Franziskaner Weissbier tu allan i Fafaria. Mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Yn 2011, lansiwyd Franziskaner alkoloholfrei, fel dewis amgen i’r rhai ohonom sy’n dymuno cymdeithasu gyda meddwl clir. Fel Erdinger Alkoholfrei, mae’n cael ei farchnata at y rhai sy’n hoffi cadw’n heini, ond does dim angen treulio o fore gwyn tan nos yn y gampfa er mwyn ei fwynhau.

Yn ogystal â blas da, mae golwg cwrw o safon ar hwn. Mae’n osgoi prif broblem nifer o ddiodydd di-alcohol – sef edrych braidd yn rhad. Yr arlunydd posteri o fri Ludwig Hohlwein a fu’n gyfrifol am roi’r mynach boliog ar boteli Franziskaner yn ôl yn 1935. Ac yno mae e o hyd, yn gwenu’n dawel a’i lygaid ynghau fel pe bai’n yn llesmair y gwir gwrwgarwr.

Fel St Peter’s Without, Innis & None a Heineken 0.0, mae Franziskaner Weissbier ar gael yn eithaf eang yn adran ddi-alcohol siopau mwyaf Tesco.

Er nad ydyn nhw mor hawdd eu cael yn fan hyn, ers 2015 maeFranziskaner hefyd yn gwneud cyrfau di-alcohol gyda blas lemwn, oren, a blodau’r ysgall, a phob un wedi’i anrhydeddu yng Ngwobrau Cwrw’r Byd.

Ac o ran beth yn union yw witbier, weißbier, neu weissbier, mae hynny’n dibynnu ar bwy rydych chi’n gwrando arno. “Cwrw gwyn” yw’r cyfieithiad arferol, ond mae “cwrw ŷd” yn bosibiliad arall. Chi sy’ biau’r dewis.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​