Krombacher Weizen

English | Cymraeg

Ein barn ar Krombacher Weizen

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 140 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae’r Krombacher Brauerei yn eistedd ar lannau dyfroedd tawel nant Krombach yng nghanol porfeydd gwelltog cefn gwlad yr Almaen. Yno, maen nhw’n creu cyrfau Almaenaidd o safon ers 1803.

Y weißbier yma yw’r ail gwrw di-alcohol gan Krombacher i gael ei fewnforio i’r wlad yma gan Morgenrot ym Manceinion, ac mae’n haeddu croeso cynnes. Mae’n ddiod lân, ysgafn a hawdd ei hyfed. Os ydych chi’n un o selogion y weißbier ac yn chwilio am ddiod lawn aroglau perlysieuol, Maisel’s Weisse Alkoholfrei yw’r un i chi. Os ydych chi’n chwennych rhywbeth llai blodeuog, cerwch am Krombacher.

Gallwch chi brynu Krombacher Weizen ar-lein trwy Wise Bartender. Hefyd, mae Morgenrot yn dosbarthu diodydd i amrywiaeth o siopau a thafarndai, felly cadwch lygad barcud amdano pan fyddwch chi allan.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​