Leffe Blond

English | Cymraeg

Ein barn ar Leffe Blond

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 100 (40 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Dechreuodd mynachod Abaty Leffe yng Ngwlad Belg fragu cwrw yn 1240, gan nad oedd y dŵr lleol yn arbennig o ddiogel ei yfed. Erbyn hyn, mae Leffe Blond yn cael ei fragu gan AB InBev yn hytrach na mynachod. Ond mae e’r un mor boblogaidd ag erioed.

Mae cryfder alcoholaidd cyrfau Leffe fel arfer yn amrywio rhwng 6.6% a 9%. Roedd creu cwrw 0.0% yn 2020, felly, yn dipyn o naid i’r bragwyr. Diolch byth, naid llwyddiannus iawn oedd e. Mae i’r cwrw yma liw euraidd hyfryd a digon o ewyn wrth ei dywallt. Mae ganddo wynt a blas Weißbiere da – a blas dwfn, heb y teneuwch sy’n amharu ar rai cyrfau di-alcohol.

Yn y bôn, os wyt ti’n hoffi Leffe Blond, bydd di’n hoffi hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​