Paulaner Hefe-Weißbier

English | Cymraeg

Ein barn ar Paulaner Hefe-Weißbier.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 115 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae’r Paulaner Brauerei yn bragu cwrw i’r werin ers 1634, pan ddechreuodd mynachod abaty Neudeck ob der Au ym Mafaria greu cwrw cryf er mwyn codi eu calonnau yn ystod tymor caled y Grawys (yn ôl y chwedl o leiaf).

Mae’r bragdy yn dal i wneud ambell gwrw go bwerus, ond yn 2005 lansiwyd eu Hefe-Weißbier di-alcohol. Cwrw ŷd gyda burum yw ystyr “hefe-weißbier”, ac ystyr hynny yw fod y cwrw heb ei ffiltro, ac felly’n gymylog. Cwrw da yw e hefyd! Mae iddo liw cochaidd hyfryd, digon o swmp, a digon o flas. At ei gilydd, mae’n weißbier perffaith bron.

Cawson ni fe Marks & Spencer. Gellir ei brynu hefyd trwy werthwyr ar-lein fel Beer Hawk, Wise Bartender, a Dry Drinker.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​