St Peter’s Without Gold

English | Cymraeg

Ein barn ar St Peter’s Without Gold

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 120 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Yn dynn ar sodlau llwyddiant St Peter’s Without Original, daeth olynydd teilwng, Without Gold.

Fel ei ragflaenydd, mae Without Gold yn dod yn y botel hirgron hardd mae’r bragdy’n enwog amdani, wedi’i phatrymu ar gostreli cwrw’r y 18fed ganrif (fel pe bai un o gymeriadau T Llew Jones wedi pigo draw am beint).

Wrth agor y botel, fel yn achos yr Original, mae gwynt brag hyfryd codi. Wrth reswm, o gofio ei enw, cwrw llawer mwy golau yw hwn na’r llall, bron fel lager. Ond nid lager cyffredin mohono. Er mor felyn ei liw, mae’n llawer tebycach ei flas i gwrw Prydeinig traddodiadol o safon nag i Erdinger Alkoholfrei neu Heineken 0.0, er enghraifft.

Am y tro bydd rhaid i chi ei fwynhau gartref, gan mai dim ond ar-lein mae fe ar gael (naill ai o’r bragdy neu gan ambell le arall). Ond cwrw yw hwn sy’n ysu am gael ei yfed mewn tafarn dda: mewn gardd gwrw wrth nant fyrlymus ar ddiwrnod braf, neu ar y sgiw wrth goelcerth o dân yn y gaeaf.

Mae Without Gold hefyd wedi’i ardystio’n figanaidd gan Gymdeithas y Figaniaid. Felly, cewch chi lymeitian gyda chydwybod tawel, gan wybod na ddioddefodd yr un pysgodyn er mwyn creu eich cwrw.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​