St Peter’s Without Organic

English | Cymraeg

Ein barn ar St Peter’s Without Organic

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 120 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Fel pe bai dau gwrw di-alcohol ddim yn ddigon, mae trydydd un wedi dod allan o Lanbedr-yn-Suffolk yn ddiweddar. Yn yr achos yma, nid y botel yw’r unig beth amdano sy’n wyrdd, am fod hwn hefyd yn gwrw organig.

A dweud y gwir, nid hwn yw cwrw organig cyntaf y bragdy yma, ond hwn yw’r un cyntaf sydd hefyd yn ddi-alcohol. At hynny, cafodd sêl bendith Cymdeithas y Figaniaid, felly mae’n arbennig o lesol i’r amgylchfyd ac i’ch iechyd fel ei gilydd. Felly, os ydych chi am warchod y blaned ac osgoi cur pen, dyma’r cwrw i chi!

O ran ei bryd a’i wedd, cwrw gwelw iawn yw hwn, bron fel weissbier o’r Almaen. Ond o ran ei flas, cwrw traddodiad o Brydeinig yw e – tebyg iawn i Without Original.

Hyd y gwyddon ni, dyw Without Organic ddim wedi cyrraedd y siopau eto, ond gallwch chi ei archebu fe o’r bragdy, ac mae’r ddau gwrw Without arall ar gael yn Tesco a Morrisons.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​