Bavaria 0.0%

English | Cymraeg

Ein barn ar Bavaria 0.0%

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 79 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Y peth cyntaf i’w ddweud am gwrw Bavaria yw nad o Fafaria mae’n dod o gwbl. Yn ôl yr hanes, cafodd y teulu Swinkels, sy’n bragu cwrw yn yr Iseldiroedd ers 1719, eu hysbrydoli gan gampau bragwyr de’r Almaen i enwi eu cwrw ar ôl y rhan yna o’r byd. Efallai byddwch chi’n cofio cwmni Bavaria hefyd fel y bobl a drefnodd dipyn o farchnata annisgwyl iawn, ac oren iawn, yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yn 2010, er mawr anniddigrwydd i noddwr y twrnamaint, Budweiser.

Wedi’i lansio yn 1978, mae Bavaria 0.0% wedi cyrraedd sawl gwlad ers hynny, ac mae ar werth yn y rhan fwyaf o’r prif archfarchnadoedd fan hyn. Mae’r cwmni yn ei frolio fel “cwrw sero-alcohol cynta’r byd”. Yn wahanol i rai cyrfau o’r fath, mae hwn wedi’i fragu’n ddi-alcohol yn lle bod yr alcohol wedi’i dynnu allan ar y diwedd. Rhoi “blas gwych cwrw sydd wedi’i fragu’n annibynnol a theuluol” yw’r nod. Ydyn nhw wedi ei chyrraedd, felly?

Mae’r ateb i’w cwestiwn yn dibynnu ar faint rydych chi’n chwilio amdano mewn cwrw. Mae hwn yn hawdd ei yfed a bydd e’n torri eich syched. Mae gyda fe flas glân gyda thipyn o frag arno fe, ond mae hefyd fymryn yn denau. Dyw e ddim yn wael o gwbl, ond dyw e ddim yn wych chwaith. Rhoddwn ni farc gwell-na-chanolig o 3.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​