Big Drop Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Lager

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 46 (14 ymhob 100ml)
Sgôr
: 4 o 5

Wedi’i lansio yn Awst 2017 yng Ngŵyl Yfed Ystyriol Club Soda, mae golwg ac arogl lager crefftus da ar hwn. Mae’n blasu’n dda hefyd – glân ac adfywiol – er bod, o bosibl, rhyw fymryn o adflas sur. At ei gilydd, boddhaol iawn.

Mae’n amlwg bod Big Drop hefyd yn gwybod eu pethau o ran diwyg a marchnata. Yr haf diwethaf, gan gydnabod bod eu labeli geometrig gwreiddiol yn “neis ond digymeriad”, gwnaethon nhw ailwampio’r cyfan. Fel Adnams, mae’n eglur fod Big Drop nhwthau’n ymfalchïo yn eu gwreiddiau yn y dwyrain pell (sef Suffolk). Mae’r lager yma’n cario un o bedair delwedd gofiadwy o arfordir dwyreiniol Lloegr, yn yr achos yma traeth hafaidd deniadol dros ben.

Mae Big Drop Lager ar werth trwy’r Wise Bar Tender a Dry Drinker. Mae’r bragwyr hefyd yn cyflenwi amryw dafarndai, bwytai a siopau yn Lloegr (a Sweden, yn ôl y sôn).

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​