Birra Moretti Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Birra Moretti Zero

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 43 (13 per 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Os yw Peroni Nastro Azzuro yn mynd â i fyd ffasiynol, moethus la dolce vita, cwrw i’r Eidalwr cyffredin yw Birra Moretti.

Wedi’i sefydlu yn 1859 yng ngogledd y wlad, pan oedd yr Eidal yn dal i frwydro i’w rhyddhau’i hunan o grafangau Ymerodraeth Awstria, mae’r brand wedi’i ymgorffori yng nghymeriad Baffo ( yn llythrennol “mwstás”) gwerinwr gonest yr olwg yng ngwisg bro’r Alpau, yn llymeitian ei ddiod ar sgwâr y dref. Mae’r hen foi’n i weld o hyd ar y Moretti Zero newydd yma, yn rhan o ddiwyg deniadol sy’n dweud wrth y byd mai cwrw o safon yw hwn.

O ran y cwrw ei hunan, roedd ein panel profi yn anghytuno â’i gilydd unwaith eto! I rai, cwrw melyn Eidalaidd o’r iawn ryw oedd hwn, gan fynd â nhw, a’u dychymyg yn drên, yn ôl i wyliau heulog ar lan llyn. Yn nhyb ambell un arall, roedd e fymryn yn denau a mymryn yn felys. A bod yn onest, mae e’n felysach na Moretti arferol (gan nad yw’r siwgr i gyd wedi’i droi’n alcohol) ond dyw’r melystra ddim yn ormodol o bell ffordd.

Rhown ni iddo sgôr barchus o 3½ allan o 5. Ond, fel pob tro, bydd eisiau i chi farnu drosoch chi’ch hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​