Budweiser Prohibition

English | Cymraeg

Ein barn ar Budweiser Prohibition

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 111 (34 ymhob 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Yn ôl yr hanes, roedd bragdy Budweiser yn un o’r ychydig rai yn yr Unol Daleithiau a lwyddodd i aros ar agor trwy gydol cyfnod y Prohibition o 1920 hyd 1933, a hynny trwy droi at fragu cwrw di-alcohol. Mae AB InBev wedi tynnu ar yr hanes yna er mwyn creu cwrw newydd sbon.

Dyma un arall sy’n wych yr olwg. Mae diwyg y can yn cymryd coch, gwyn a glas gwladgarol Bud a’i droi’n ddu a gwyn trawiadol iawn, gan greu rhywbeth sy’n dal y llygad yn syth ac yn erfyn am gael ei brynu. Os Budweiser yw Brenin y Cyrfau, ai hwn yw’r Etifedd y Goron?

Yn anffodus, dyw’r ddiod y tu fewn i’r can ddim yn gwireddu addewidion y tu fas. Mae’r lliw yn welw a’r ewyn yn diflannu fel gwlith y bore eiliadau ar ôl ei dywallt. Mae’r blas yn denau, braidd yn felys, ac yn amlwg o ddi-alcohol. Trueni mawr am gwrw buon ni’n ei ddisgwyl mor eiddgar.