Clausthaler

English | Cymraeg

Ein barn ar Clausthaler

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 86 (26 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Fel Nirvana, bragdy yw Clausthaler nad yw’n gwneud dim ond cwrw di-alcohol. Lansion nhw eu cwrw cyntaf yn 1979, ac mae rhai o’u hen hysbysebion o’r ’70au yn glasuron o’u bath.

Yn wahanol i’r nifer o’r cyrfau ar y tudalen yma, dyw Clausthaler ddim wedi cael ei ddadalcoholeiddio; yn hytrach, mae wedi’i fragu’n ddi-alcohol. Yn ôl y bragwyr, creu cwrw di-alcohol oedd yn blasu fel cwrw da oedd eu bwriad o’r cychwyn cyntaf. Rhaid eu bod nhw’n gwneud rhywbeth yn iawn, gan eu bod nhw bellach yn ei allforio i 51 o wledydd, ac wedi ennill ychydig o wobrau hefyd.

Beth oedd ein barn ni, felly? Wel, yn gyntaf oll, mae diwyg y botel yn gwneud iddo edrych fel lager Almaenig da. Mae’n gwynto fel lager, ac wrth ei dywallt mae tipyn o ewyn gwyn neis ar y top. Ond mae’r blas braidd yn ddiddrwg-didda, ac mae mymryn o adflas cemegol. At ei gilydd, mae’n dderbyniol ond mae gwell cyrfau di-alcohol ar gael.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​