Cobra Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Cobra Zero

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 78 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Os cawsoch chi gyrri erioed, mae’n debyg i chi gael Cobra. Rhaid diolch i’r gwŷr busnes Indiaidd eu tras Karan Bilimoria ac Arjun Reddy am hynny. Gan weld mor hoff ydyn ni yn y wlad yma o olchi ein korma lawr y lôn goch â chwrw, yn 1989 sefydlon nhw gwmni Cobra yn eu fflat bach yn ne Llundain. Creu cwrw llai llawn swigod na lager a llai chwerw na chwrw traddodiadol oedd y nod, yn arbennig ar gyfer ei yfed gyda bwydydd Indiaidd.

Yn 2005, i gyd-fynd â’u cwrw gwreiddiol, Cobra Premium gyda chryfder o 4.8%, fe anwyd Cobra Zero. Gan ddilyn rysáit gan Fragdy Bavaria yn yr Iseldiroedd, defnyddiwyd burum arbennig nad yw’n creu alcohol o gwbl, yn hytrach na thynnu’r alcohol allan ar y diwedd. Mae Cobra Zero, felly, yn haeddu ei enw, gan mai sero yw cyfanswm yr alcohol ynddo fe.

O ran yr yfed, dwedwn ni fod gan Cobra Zero yr un blas llyfn â’r cwrw Premium; ac fel hwnna, fydd e ddim yn llenwi’ch bola â nwyon annifyr chwaith. Yn annisgwyl i lager, mae blas y brag yn dod drwodd yn gryf. Mae’n gydymaith da i fwydydd Indiaidd, wrth reswm. Ond peidiwch â’i gadw er gyfer eich cyrri yn unig, gan ei bod yn ddiod dderbyniol i’w gweini gyda bron i bob pryd o fwyd, yn enwedig os wedi’i hoeri’n dda ar ddiwrnod chwilboeth.

Gan fod golwg diod weithiau cyn bwysiced â’i blas, dylid nodi bod y cwrw yma hefyd yn edrych yn deidi – mewn fersiwn gwyrdd o botel eiconig Cobra (gyda’r eliffantod, y cleddyfau croes a phob dim). Mae’n amlwg hefyd fod y bragwyr yn anelu am gynulleidfa eang ac amrywiol, gan fod eu cwrw wedi’i gymeradwyo gan Gymdeithas y Llysieuwyr ac wedi’i ardystio’n kosher gan Lys Rabinaidd Llundain.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​