Erdinger Alkoholfrei

English | Cymraeg

Ein barn ar Erdinger Alkoholfrei

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 125 (25 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Maen nhw’n bragu cwrw yn Erding, Bafaria, ers 1886, ac yn honni bod eu cwrw yn “ymgorffori bywyd a mwynhad Bafaraidd”. Diod ychydig mwy newydd na hynny yw Erdinger Alkoholfrei, ond mae’n prysur ennill ei phlwyf yn y farchnad ddi-alcohol. Yn ogystal â’i phoblogrwydd yn yr Almaen, mae ar werth mewn llawer o archfarchnadoedd Prydain ac yn yr Unol Daleithiau.

Fel Fitbeer, mae’r bragwyr yn marchnata hwn at bobl sy’n hoff o fod yn heini. Oddi ar 2001, mae Erdinger Alkoholfrei yn cael ei hyrwyddo fel “llymaid isotonig i dorri syched”, gyda sêl bendith tîm o 26 o athletwyr tra athletaidd yr olwg. Os ffitrwydd yw eich peth mawr chithau hefyd, mae llwytho wybodaeth helpfawr fan hyn am ddiota’n iachus.

Yn ôl Erdinger, bydd e hefyd yn rhoi i chi 26% o’ch Fitamin B12.

Felly, fydd hwn ar eich rhestr Oktoberfest chi? Rhaid dweud bod hwn yn un o’r cyrfau ysgafn di-alcohol gorau. Mae’n fywiog ac yn tywallt yn dda gyda digon o ewyn at y top. Mae ganddo arogl ac arlliw lager Almaenig da, ac mae’n un o’r ychydig iawn o ddiodydd sero-y-cant gallech chi eu camgymryd am gwrw alcoholaidd arferol. A does ganddo ddim o o’r adflas cemegol afiach sydd wedi difetha lagers di-alcohol ers blynyddoedd. Mae’n llawn haeddu sgôr o 4.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​