Infinite Session Pils

English | Cymraeg

Ein barn ar Infinite Session Pils.

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 39 (12 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Rhaid fod Infinite Session yn un o fragdai mwyaf cŵl y byd, yn eistedd yng nghanol un o fröydd mwyaf cŵl dwyrain Llundain ac yn rhoi eu cwrw mewn rhai o’r caniau cwliaf oll.

Maen nhw’n disgrifio’r cwrw yma fel ‘pils’, sy’n gwneud i chi ddisgwyl rhywbeth eithaf ysgafn, a hefyd fel ‘cwrw melyn crefftus’, sy’n debygol o wneud i chi feddwl am gwrw mwy traddodiadol. Ac yn wir, roedd rhai o’n panel profi yn meddwl fod arno lawer mwy o flas hopys na chwrw melyn arferol. Mae e hefyd braidd yn denau, sy’n broblem gyffredin i gyrfau prin eu halcohol. At ei gilydd, mae’n ddiod ddymunol heb fod yn fythgofiadwy. Fel eu cyrfau eraill, mae hwn yn cael sgôr barchus o 3 allan o 5 oddi wrthyn ni.

Prynon ni ein Sesiwn Ddi-ben-draw yn Marks & Spencer. Gallwch chi hefyd ei brynu ar lein trwy siopau fel Beer Hawk a Dry Drinker a thrwy Amazon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​