Perlenbacher

English | Cymraeg

Ein barn ar Perlenbacher.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 69 (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae Lidl wedi gwerthu sawl cwrw llai alcoholaidd ar hyd y blynyddoedd, ond hwn, wedi’i lansio 2019, yw’r cwrw cwbl ddi-alcohol cyntaf i fod yn rhan greiddiol o’u stoc. Gan nad yw siopau disgownt fel hon fel arfer yn gwerthu pethau byddan nhw’n methu eu gwerthu’n gyflym, gallwn ni gymryd eu bod nhw wedi sylweddoli bod tipyn o fynd ar ddiodydd dirwestol y dyddiau hyn.

Sut gwrw yw hwn, felly? Cwrw melyn cwbl arferol, cwbl dderbyniol. Os ydych chi’n chwilio am gwrw crefftus gyda hopys egsotig ac arogleuon blodeuog annisgwyl, nid dyma’r ddiod i chi. Os ydych chi’n hoffi cwrw syml sy’n torri syched, ewch amdano. Wedi’i oeri’n dda, bydd e’n gwlychu’ch llwnc, adfywio’ch ysbryd ar ddiwrnod chwilboeth, ac yn helpu gyrru cyri lawr y lôn goch.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​