Peroni 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Peroni Libera.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 73 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Rhaid bod Peroni yn un o’r cyrfau mwyaf llwyddiannus erioed. O ddechreuadau distadl yn nhreflan Vigevano yn 1846, tyfodd i fod yn un o allforion mwyaf enwog a mwyaf ffasiynol yr Eidal. Mae ar fwydlenni bwytai o Rufain i Ruthun, diolch yn rhannol i ymgyrch marchnata uchelgeisiol.

Dyma ail ymgais Peroni i greu cwrw di-alcohol. Mae Peroni 0.0 yn disodli Peroni Libera – diod oedd, yn ein barn ni, ychydig yn rhy felys a ffrwythus. Diod lawer gwell na’i rhagflaenydd yw Peroni 0.0. Yn y bôn, mae’n llawer mwy fel cwrw. Mae’n llawer mwy chwerw na Peroni Libera ac na chwrw arferol y cwmni. Mae ganddo adflas hopys dymunol na chewch chi fel arfer yng nghwrw’r Eidal.

Cwrw gwych yr olwg yw e hefyd. Mae Peroni yn giamstars ar gyflwyno diod yn dda, a dyw hon ddim yn eithriad. Mae’n dod mewn botel werdd hyfryd, wedi’i labelu’n bennaf oll yn Eidaleg ac yn addo “qualitá superiore”.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​