Sainsbury’s Low Alcohol Czech Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Low Alcohol Czech Lager

Sgôr:

4/5

ABV: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 87 (17 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Bragdy tra enwog Staropramen, ar lannau Afon Vltava ym Mhrâg, sy’n bragu hwn ar gyfer Sainsbury’s. Maen nhw creu cwrw da yno ers 1896, a byddech chi’n gobeithio na fydden nhw’n ein siomi yn yr achos yma. Diolch byth, wnaethon ddim.

Cwrw o safon gymharol ag Erdinger yw hwn, ac fel ei gefnder o’r Almaen, gallech chi gamgymryd y ddiod Tsiecaidd yma am gwrw mwy alcoholaidd. Mae arogl a lliw lager arno, ac fel Cobra Zero, fydd e ddim yn eich gadael yn bytheirio nwy trwy’r nos. A dweud y gwir, diod fwy blasus na nifer o’r cyrfau alcoholaidd sydd i’w cael mewn poteli a chaniau yw hon. Mwy tebyg yw e i’r lagers crefftus sydd wedi ennill troedle yn y farchnad yn ystod y degawd diwethaf.

Mae lle i wella diwyg y botel. Mae i’w weld fel rhyw gwrw rhad di-nod, a byddai ailwampio’r label yn helpu ei roi tua brig y farchnad, lle dylai fe fod. Un arall sy’n sgorio 4.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​