San Miguel 0.0%

English | Cymraeg

Ein barn ar San Miguel 0.0%

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 80 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Os aethoch chi erioed i Sbaen, neu os nad aethoch erioed, mae’n eithaf tebygol i chi gael San Miguel rywbryd. Mae’r Sbaenwyr yn ei fragu ers 1890, ac yn ei allforio i bob rhan o’r byd. Mae ei berchnogion Mahou San Miguel bellach yn gwneud 70% o’r cwrw Sbaenaidd ar y blaned, gan gynnwys cryn dipyn o gwrw di-alcohol.

Pam lansiwyd San Miguel 0.0% yn 2001, fe oedd cerveza sin alcohol cyntaf oll Sbaen. “Arloeswr” oedd e, yn ôl y broliant, wedi’i greu fel gallai yfwyr fwynhau holl “aroglau, ffresni ac ansawdd cwrw, gyda 0.0% alcohol”.

Fasen ni ddim yn mynd mor bell â hynny, ond dyw cwrw Llanfihangel-ym-Málaga ddim yn gwrw gwael o gwbl. Mae’r blas yn lân, ac er ei bod yn ddiod denau braidd, mae’n sicr o dorri syched. Os cwrw golau sydd at eich dant, mae hwn yn eithaf derbyniol.

Mae diwyg y ddiod yn dipyn o siom, efallai. O gymharu â dylunio deniadol coch, gwyrdd ac aur y cyrfau Especial a Fresca, mae cynllun amrwd label y cwrw 0.0% yn eithaf salw. Mae golwg arno fel rhywbeth byddech chi’n gorfod ei brynu yn adran fwydydd arbennig yr archfarchnad (gyda’r bara di-glwten a’r mayonnaise heb wyau) yn hytrach na chwrw byddech chi’n ei ddewis o blith cyrfau eraill am ei bod yn edrych yn ddiddorol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​