Adnams Sole Star

English | Cymraeg

Ein barn ar Adnams Sole Star

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.9%
Calorïau ymhob potelaid: 90 (18 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Dechreuodd Sole Star yn 2011 fel cwrw 2.7%. Allwn ni ddim ddweud ’bod ni’n llwyr gyd-weld â’u honiad ar y pryd ei fod yn “berffaith fel diod ganol dydd i yfwyr cyfrifol”; ond braf oedd gweld y farchnad gwrw prin-ei-alcohol yn ehangu ’ta waeth. A doedd y prif fragwr Fergus Fitzgerald a’i griw ddim yn fodlon gadael pethau fel’na. Yn Ebrill 2017 ail-anwyd Sole Star a’i gryfder alcoholaidd wedi’i docio o ddau draean.

A bod yn deg i’r cyrfau eraill ar y tudalen yma, nid diod gwbl ddi-alcohol mo hon, ac mae hi fymryn yn gryfach na’r lleill sydd yma. Os ydych chi’n trio osgoi alcohol yn gyfan gwbl, dim dyma’r cwrw i chi. Ond os ydych chi am yfed llai, gyda chwta 0.5 uned o alcohol ymhob potelaid, gallai hwn fod i’r dim i chi.

Mae ganddo liw amber hyfryd, bron fel caramel. O ran y gwynt a’r blas, hopys sy’n dod drwodd yn anad dim, tebyg i Nanny State gan BrewDog. Ond mae hefyd awgrym o flas brag sy’n gwneud hwn yn gwrw mwy cymhleth ei flas na Nanny State.

O ran ei olwg, mae’r cwrw yma wedi’i becynnu’n berffaith gyda diwyg sy’n nodi mai cwrw o safon yw e yn gyntaf oll, cyn bod yn gwrw prin-ei-alcohol. Mae’n amlwg bod y bragwyr yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau yn Suffolk, ac mae’r enw Sole Star a chynllun y label yn adlewyrchu’r ffaith fod y cwrw yma’n hanu o fragdy mwyaf dwyreiniol Prydain, “lle mae’r haul yn tywynnu’n gyntaf”.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​