Big Drop Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Pale Ale

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 63 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mae cwrw gwelw yn un o’r categorïau cwrw sy’n tyfu’n gyflymaf y dyddiau hyn. Mae silffoedd y siopau mawrion yn gwegian dan bwysau cannoedd o boteli a chaniau bach cŵl ohono. Eithaf doeth, felly, oedd i Big Drop ymuno â’r parti.

Heb dindroi na gwamalu, rhaid dweud mai cwrw rhagorol yw hwn. Fel unrhyw gwrw gwelw gwerth ei halen (neu’i hopys), blas yr hopys sy’n dod drwodd yn anad dim. Ond nid dyna’r unig flas sydd yma. Mae yma hefyd arogl sbeisiog braf a mymryn o sitrws. Yn ôl y bragwyr, maen nhw’n taflu leimiau ffres i mewn i’r gymysgedd – dull diddorol ond effeithiol, a barnu ar sail y canlyniad.

Rhown ni sgôr o 5 allan o 5 i hwn. Does dim rhyfedd iddo fod yn fuddugol yng Ngwobrau Cwrw’r Byd.

Fel cyrfau eraill y bragdy, mae ar gael trwy’r Wise Bartender a Dry Drinker, yn ogystal ag amrywiaeth o siopau a thafarndai o Fryste i Lerpwl a’r tu hwnt.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​