Braxxz Rebel IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Braxxz Rebel IPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.2%
Calorïau ymhob potelaid: 89 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mae Braxzz yn un o’r bragwyr mwyaf newydd sydd, ac un o’r mwyaf dyfeisgar. Un amcan sydd ganddyn nhw, sef creu cwrw o safon sydd mor agos â phosibl at fod yn ddi-alcohol.

Gyda chryfder o 0.2%, yn dechnegol allwn ni ddim dweud bod y Rebel IPA yma yn gwbl “ddi-alcohol”, ond mae o fewn trwch blewyn i’r nod. Mae hefyd yn gwrw gwelw rhagorol. A dweud y gwir, chewch chi ddim un gwell gyda chyn lleied o alcohol.

Mae iddo liw ambr tywyll hyfryd – ychydig yn fwy tywyll na’r rhan fwyaf o gyrfau gwelw. Fel pob IPA, mae mor gyforiog o hopys â chaeau Caint. Os nad yw hopys at eich dant, fydd y cwrw yma ddim chwaith. Yn ffodus iawn i chi, mae gyda ni ddigon o ddewisiadau eraill i chi. Ond os ydych chi’n hoffi eich cwrw yn chwerw, mynnwch botelaid o hwn!

Fel diodydd eraill Braxzz gallwch chi ei brynu ar-lein gan Dry Drinker.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​