BrewDog Punk AF

English | Cymraeg

Ein barn ar BrewDog Punk AF

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 50 (15 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Un peth gallwch chi ei ddweud am BrewDog – dyn nhw ddim yn swil. Hyd yn oed pan fyddan nhw’n gwneud cwrw di-alcohol, mae rhaid iddyn nhw roi iddo flas eithafol ac enw awgrymiadol.

Hwn yw’r trydydd cwrw mwy-neu-lai di-alcohol gan y dihirod direidus o sir Aberdeen – gan ddod yn dynn ar sodlau Nanny State yn 2013 a’u Raspberry Blitz yn 2018. Yn debyg iawn i’w cwrw mafon nhw, Marmite o ddiod yw hon – byddwch chi naill ai’n ei charu neu’n ei chasáu. Fasen ni’n disgwyl dim llai gan BrewDog.

Mae’n dibynnu ar sut edrychwch chi arno fe – mae naill ai’n gyforiog o hopys hyfryd neu’n boddi mewn gormod ohonyn nhw. Yn wir, mae ganddo fwy o hopys na holl gaeau Henffordd. Felly, os ydych chi’n frwd dros IPA eithafol, ewch amdani! Mae e lawn cystal â sawl IPA o gryfder safonol, a go brin basech chi’n gallu dweud ei fod e mor brin o alcohol.

Cewch ch fe yn Sainsbury’s, gan Dry Drinker, neu’n syth o’r bragdy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​