Drop Bear Tropical IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Drop Bear Tropical IPA

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 28 (7½ ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Buon ni’n blasu a beirniadu cwrw o Loegr, yr Alban, yr Iseldiroedd a Sweden. Hwn, mae’n debyg, yw’r un cyntaf o Gymru. Mwy neu lai. Cafodd ei greu gan bâr mentrus o Abertawe, ond ar hyn o bryd mae’r bragu i gyd yn digwydd yn sir Efrog (tiriogaeth ddigon Cymraeg ar un adeg, ond nid ers y chweched ganrif). Maen nhw’n addo symud y gwaith yr ochr yma i Glawdd Offa cyn gynted ag y bo modd.

Ond dyna ddigon am ddaearyddiaeth. “Sut mae’r cwrw?” yw’r cwestiwn pwysicaf. Yr ateb? Arbennig o dda! Mae iddo liw ambr hyfryd a digon o ewyn. Mae ynddo fwy o hopys na’u Yuzu Pale Ale, a blas mwy cymhleth at ei gilydd. Mae hefyd tipyn o drwch iddo, sy’n anodd ei wneud mewn cwrw di-alcohol. Cafodd ei wobrwyo yng Ngwobrau Di-alcohol Imbibe yng Nghorffennaf 2020 fel y Cwrw Gwelw Gorau. Felly, os ydych chi’n un am gwrw da, ewch ati i chwilio amdano.

Ac os ydych chi’n gofyn beth yn union yw’r Drop Bear, creadur chwedlonol yw e – chwedl mae Awstraliaid yn cael cryn difyrrwch yn ei hadrodd wrth dwristiaid diniwed. Mor boblogaidd yw e erbyn hyn nes bod ganddo ei dudalen ei hunan ar wefan Amgueddfa Awstralia.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​