Drop Bear Yuzu Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Drop Bear Yuzu Pale Ale

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 28 (7½ ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae sawl peth gwych am y cwrw yma. Yn gyntaf oll, mae stori dda tu ôl iddo. Cafodd ei greu gan ddau arloeswr ifanc trwy arbrofi yn eu cegin gefn. Yn ail, bydd yn dda gan bob Cymro a Chymraes glywed mai hwn yw’r cwrw di-alcohol cyntaf o Gymru. Mwy neu lai. Mae’r ddwy fragwraig yn hanu o Abertawe, ond mae’r cwrw ei hun yn cael ei fragu ar hyn o bryd yn sir Efrog (sef yr Hen Ogledd Cymraeg, yn ôl yn y chweched ganrif). Maen nhw’n addo bydd popeth yn symud i’r ochr yma i Glawdd Offa yn fuan.

Mae’r pecynnau’n rhagorol – gyda diwyg modern tu hwnt, a digon o wybodaeth ddefnyddiol a hawdd ei darllen. (Mae yma wers i lawer o fragwyr eraill am sut i adael i gwsmeriaid wybod beth maen nhw ei yfed!)

O ran y cwrw, mae iddo liw euraidd hyfryd, a blas llawn hopys gyda mymryn o garamel. A rhag ofn na wyddoch chi, math o lemwn o’r Dwyrain Pell yw’r iwsw. Ffaith handi ar gyfer cwis neu groesair rhywbryd.

At hynny, mae’r Drop Bear ei hunan. Tipyn o lên gwerin fodern Awstralia yw hwn – stori i godi ofn ar ymwelwyr hygoelus â’r wlad. Neu oes mwy iddo na hynny? Mae’r anifail rhyfeddol yma mor adnabyddus erbyn hyn nes bod ganddo ei dudalen ei hunan ar wefan Amgueddfa Awstralia. Cewch chi ddarlun dychrynllyd o’r ‘Arth’ ar bob potel.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​