Ghost Ship

English | Cymraeg

Ein barn ar Ghost Ship

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 105 (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Hwn yw’r trydydd cwrw prin-ei-alcohol gan Adnams i ni ei flasu, ac, yn sicr, dyma’r gorau.

Mae Ghost Ship 4.5% wedi hen ennill ei blwyf. Cam beiddgar, felly, oedd rhoi’r un enw ar gwrw 0.5%, ac wedyn honni bod ganddo bopeth sydd gan ei frawd mawr cryfach, ar wahân i’r alcohol.

Yn ôl Adnams, maen nhw’n gwneud Ghost Ship arferol ac wedyn yn tynnu’r alcohol allan, heb amharu dim ar y blas. Mae animeiddiad bach yn esbonio sut, os ydych chi’n teimlo’n chwilfrydig.

Mae’r bragdy hyd yn oed yn dosbarthu pecynnau marchnata gyda’r ddau gwrw gyda’i gilydd i chi eu cymharu. Felly, sut maen nhw’n cymharu? Eithaf da, a dweud y gwir. Maen nhw ill dau yn dod mewn poteli tywyll neis, wedi’u dylunio gyda’r llun cyfarwydd o long druenus yr olwg yn llithro trwy’r gwyll gyda’i hwyliau carpiog.

Maen nhw ill dau yn tywallt yn dda, gyda lliw cochaidd ac ewyn da. Wrth reswm, does gan yr un 0.5% ddim cweit yr un teimlad â’r un 4.5% wrth iddo fynd i lawr y lôn goch. Ond does dim byd arall ar goll yma. Cwrw gwelw da yw hwn, gyda mymryn o sitrws. O bosibl, Nanny State yw’r cwrw mwyaf tebyg iddo; ond cwrw gwell, mwy cymhleth ei flas, yw hwn. Mae wedi plesio’r adolygwyr ar Untappd hyd yn oed, ac maen nhw’n griw anodd eu plesio.

Yn ôl yn sôn, mae ar gael yn nhafarndai Wetherspoons, ac yn y siopau mwy Tesco. Gallwch chi hefyd ei brynu’n syth o’r bragdy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​