Infinite Session IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Infinite Session IPA.

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 39 (12 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Daeth Infinite Session i mewn i’n bywydau ni yn ystod Chwefror rhewllyd 2018 gyda’u cwrw gwelw cyntaf, gan addo i ni gwrw oedd yn “ddi-alcohol, nid yn ddi-fflach”.

Bellach, mae gyda nhw hefyd yr IPA yma, yn yr un caniau hynod fodern yr olwg. Roedd rhaid i ymchwilio dipyn er mwyn darganfod union natur y gwahaniaeth rhwng cwrw gwelw a chwrw gwelw’r India (neu IPA). Yr hopys yw’r ateb – crëir IPA â llawer mwy o hopys. (Ychwanegid y rhain yn wreiddiol er mwyn cadw’r cwrw rhag suro yn ystod y daith hir o Brydain i’r India, a dyna sut cafodd IPA ei enw). Yn sicr, mae gan y cwrw yma ddigon o hopys. Gwaetha’r modd, yn ein barn ni, does fawr ddim arall i’r blas. Cwrw pleserus ei yfed, ond fasai fe ddim ar frig ein rhestr siopa. Felly, rhoddwn iddo sgôr ddigon parchus o 3 allan o 5.

Prynon ni ein Sesiwn Ddi-ben-draw yn Marks & Spencer. Mae hefyd ar gael trwy werthwyr ar-lein fel Beer Hawk a Dry Drinker.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​