Infinite Session American Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Infinite Session

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 36 (11 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae llif y cyrfau gwelwon diddorol yn ddi-baid a di-droi’n-ôl! Cwrw Gwelw Amercianaidd yw hwn, gan ddau o’r bragwyr mwyaf cŵl yr olwg, o un o fröydd mwyaf cŵl prifddinas y Sais.

Yn ddoeth iawn, mae’r pâr yma wedi troi eu golygon tuag at farchnad fawr sydd ar gynnydd o hyd – sef pobl sy’n hoffi cwrw da, sydd am ddal i’w yfed, ond sydd am leihau faint o alcohol sy’n mynd lawr y lôn goch. “Dyw’r parti ddim yn peidio pan mae’r alcohol yn pallu” yw’r arwyddair. “Creu cyrfau gwych i gadw’ch sesiwn i fynd” yw eu bwriad.

Ydy’r bwriad wedi’i wireddu? Do, wir! Mae gan Infinite Session liw ambr hardd, a hopys – llond cae o hopys! Mae pum math o hopys yn hwn, a chwe math o frag, sy’n dipyn o gamp. Yn ôl y bragwyr, mae’n llwythog â hopys trofannol y Bydd Newydd. Dyna’r elfen Americanaidd, felly, a’r hyn sy’n rhoi iddo ei flas chwerw adfywiol. Fel y cyrfau gwelw eraill ar y tudalen yma, os nad yw chwerwder hopys at eich dant, go brin byddwch chi’n hoff iawn o hwn – ond mae gyda ni ddigon o ddewisiadau eraill i chi.

Os oes rhaid chwilio beiau, dwedwn ni fod y cwrw yma’n brin o’r cymhlethdod gewch chi yng nghwrw gwelw Drop, gyda’i nodau sitrws a sbeis. Ond at ei gilydd, fe awn ni’n fodlon iawn am Sesiwn Ddiderfyn arall.

Mae diwyg y poteli hefyd yn gampus – gyda dylunio rhagorol sy’n eu gosod ar wahân i rai o boteli ofnadwy cyrfau 0.5% yr archfarchnadoedd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​