Innis & None

English | Cymraeg

Ein barn ar Innis & None

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 62 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Wedi’i sefydlu yng Nghaeredin yn 2003, mae Innis & Gunn yn enwog am fragu poteli bychain o gwrw cryf, hyd at 7.4%. Felly, annisgwyl braidd oedd hi pan lansion nhw gwrw gwelw 0.0% ar gyfer marchnad Ionawr Sych 2017.

O ystyried yr amryw flasau mae Innis & Gunn wedi’u cyflwyno i’r byd – rym, wisgi, pren derw wedi’i grasu – roedden ni’n sicr byddai rhywbeth anarferol am y cwrw newydd yma. Mae’n llawn hopys am un peth, ond mae mwy iddo fe na hynny – rhyw frathiad sitrws da, blas lemwn sy’n fil o filltiroedd oddi wrth siandi neu, dyweder, Becks Blue Lemon. Mae dyfnder i’r blas na chewch chi yn y rhan fwyaf o gyrfau di-alcohol, a gall sefyll ei dir ochr-yn-ochr â’i gyd-Albanwr, Nanny State gan BrewDog.

Fel Bavaria 0.0% a Cobra Zero, doedd dim alcohol erioed yn y cwrw yma, felly gellir hawlio’n deg ei fod yn gwbl ddi-alcohol. Mae hefyd yn cynnwys Fitamin C, ond fasen ni ddim yn ddibynnu arno fe yn lle, er enghraifft, ffrwythau a llysiau ffres.

Mae Innis & Gunn yn marchnata hwn ar hyn o bryd fel “argraffiad cyfyngedig”, heb fwriad pendant i’w werthu’n barhaol. Gall hynny newid, wrth gwrs, os bydd y llwyth cyntaf yn gwerthu’n dda. Os ydych chi eisiau bachu can neu ddau cyn iddo fynd yn rhy brin, mae’n un o nifer o gyrfau sydd bellach ar werth yn adran ddi-alcohol ragorol siopau mwyaf Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​