King Limbo

English | Cymraeg

Ein barn ar King Limbo.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 36 (11 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Bragdy cŵl mewn un o ddinasoedd mwyaf cŵl Lloegr yw Bragdy Laine. Maen nhw’n creu amrywiaeth o gyrfau annisgwyl. Felly efallai na ddylen ni synnu iddyn nhw fynd ati i greu cwrw mor anarferol â King Limbo.

Yn y bôn, chewch chi ddim cwrw gwelw llawer gwell na hwn. Mae iddo liw ambr hyfryd, digon o fywyd, ac aroglau hopys gallwch eu clywed o bell. Ardderchog!

Gallwch chi ei archebu trwy Dry Drinker, a siopau ar-lein eraill.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​