Lowlander IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Lowlander IPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.3%
Calorïau ymhob potelaid:
Sgôr: 5 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd Trevor Twohig

Mae’r cwrw yma, o fragdy Lowlander yn yr Iseldiroedd, yn bleser pur. A dweud y gwir, roedd hi’n bechod nad oedd gyda fi ond un ohonyn nhw i’w brofi. Es i i’w gwefan nhw i chwilio am ragor ond roedd pob un wedi’i werthu. Dwi’n synnu dim!

Ymhlith y blasau amlycaf mae mango, cardamom a chrwyn orenau. Dymunol iawn. Dyma gwrw ysgafn, perffaith ar gyfer ei lymeitian ar fachlud haul. Fel mae’n dweud ar y label: mae’n drofannol, llawn sudd, ac yn ddiogel rhag eliffantod! (Yn ôl pob sôn, dydyn nhw ddim yn hoffi ffrwythau sitrws!)

Yn unol â thras Iseldiroedd y cwrw, oren yw prif liw’r label. Mae’r ddelweddaeth yn dwyn i gof dyddiau’r hen ymerodraethau ac yn dangos mwnci yn smygu cetyn wrth farchogaeth eliffant!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​