Nanny State

English | Cymraeg

Ein barn ar Nanny State

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: Wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5

Wedi’i lansio yn 2009 a’i ddisgrifio gan ei fragwyr fel diod “loerig o chwerw”, cafodd y cwrw bach gyda’r enw smala ei ail-lansio 2010 ar wedd lai alcoholaidd – i lawr o 1.1% i 0.5%.

Dyw e ddim hanner mor chwerw ag oedd ar ei wedd gyntaf, ond mae’n dal i fod mor llawn hopys â llond cae o hopys Henffordd. Mae fel pe bai rhywun wedi cymryd casgennaid o IPA a thasgu dyrnaid arall o hopys i mewn, rhag ofn nad oedd blas yr hopys yn dod drwodd yn glir. Mor drawiadol â’i hopysrwydd yw ei liw – gwritgoch hyfryd sy’n bur wahanol i’r cyrfau melynion o’i gwmpas yn y farchnad ddi-alcohol.

Mae diwyg y botel yn cadw at batrwm tra adnabyddus y bragdy, ac mae rhaid rhoi clod (a gwên fach) i’r bragwyr James Watt a Martin Dickie (y ddau lanc o sir Aberdeen a roddodd i ni gwrw cryfaf Prydain yn 2008) am greu cwrw o safon heb bron i ddiferyn o alcohol ynddo, ac wedyn ei enwi’n Nanny State, er mwyn codi gwrychyn pobl fel ni.

Mae hwn ar ei orau wedi’i oeri’n dda, ac, fel Cobra Zero, mae rhai yn dweud mai cydymaith da i gyrri yw e. Fel pob un o ddiodydd BrewDog, mae’n addas i lysieuwyr a figaniaid. Mae ar gael yn siopau Sainsbury’s, Tesco, a Morrisons, bwytai Prezzo, a bron i bob man lle mae cyrfau eraill BrewDog ar werth – sy’n cryn nifer o lefydd erbyn hyn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​