Nirvana Tantra Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Nirvana Tantra Pale Ale

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Un o fragdai mwyaf newydd a mwyaf diddorol y wlad yw Nirvana, draw, draw yn nwyrain Llundain. Dwedan nhw mai nhw yw unig fragdy Prydain syd wedi ymroi’n gyfan-gwbl i greu cwrw crefftus di-alcohol a dim byd arall. Mae hynny, yn sicr, yn eu gwahaniaethu oddi wrth y bragwyr mawrion sy’n cynhyrchu cwrw di-alcohol ochr-yn-ochr â’u diodydd arferol; ac yn gwahaniaethu eu cwrw oddi wrth y llu o gyrfau 0.5% sydd ar gael gan yr archfarchnadoedd. Os am burdeb di-alcohol, dyma’r lle i ddod.

Yn wir, mae rhyw naws ysbrydol i’r cwmni a’i gynnyrch – gyda’u cyngor i ni “ddianc o’r gwreiddiau clwm”, y patrwm lled-Ddwyreiniol o ddail a blodau ar y poteli, ac wrth gwrs enwau’r cyrfau.

Y peth arall y mae diwyg y poteli yn ei awgrymu yw ansawdd. Mae’n eglur bod ymdrech yma i gyflwyno hwn fel cwrw o safon ar gyfer y rhai sy’n eithaf dethol am beth sy’n mynd lawr y lôn goch.

O ran y cwrw ei hunan, cawsom ein plesio ond nid ein gwefreiddio. Mae ganddo liw amber da a blas ysgafn gyda mymryn o ffrwyth, fel lemwn neu oren. Mae’n neis, ond efallai’n rhy syml ei flas am gwrw crefftus. Os ydych chi’n mwynhau cwrw mwy cymhleth, cerwch am eu stowt nhw.

A rhag ofn ’bod chi ar fin gofyn, mae’r stowt a’r cwrw gwelw ill dau’n addas i lysieuwyr

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​