Nix Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Nix Pale Ale.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 5 o 5

Wedi’i sefydlu yn 2006 gan Petra Wetzel o Fafaria, mae gan fragdy WEST galon o Glasgow a meddwl o’r Almaen, meddan nhw – rhyw gyfuniad o angerdd a manwl-gywirdeb, tybiwn ni!

Yn ysbryd manwl-gywirdeb, maen nhw’n bragu eu cwrw i gyd yn unol â deddf enwog yr Almaen o 1516 – y Reinheitsgebot, sy’n mynnu na ddylai cwrw gynnwys dim mwy na dŵr, barlys a hopys. O ran yr angerdd, rhaid dweud bod y cwrw gwelw di-alcohol newydd yma yn un dylai pob cwrwgarwr deimlo’n frwd yn ei gylch. Rydym ni wedi blasu a barnu mwy na 150 o ddiodydd ar y wefan yma, ac mae hon yn un o’r goreuon.

Cwrw cymylog yw e, gyda lliw ambr hyfryd. Mae’n llawn hopys ond heb fod yn lloerig o chwerw. Mae e wedi’i botelu’n hardd gyda blodyn hopys hapus ar y label. Yn y bôn, mae’n rhagorol.

Cewch chi ei brynu fe’n syth o’r bragdy, ac mae mwy o lefydd gwerthu ar y gweill.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​