Pistonhead Flat Tyre

English | Cymraeg

Ein barn ar Pistonhead Flat Tyre

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 66 (20 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae adran ddi-alcohol Tesco yn tyfu o hyd, ac un cwrw sydd wedi cyrraedd y silffoedd yn ddiweddar yw hwn o Sweden.

Sefydlwyd bragdy Brutal Brewing mor ddiweddar â 2011, felly cam beiddgar gan gwmni newydd yw hwn. Roedden nhw eisoes yn gwerthu Flat Tyre fel cwrw 4.5%pan lansion nhw’r cwrw newydd yma gyda chryfder o 0.5%, gan anelu at gadw’r holl flas ond hepgor y rhan fwyaf o’r alcohol.

Mae hwn yn un o nifer o gyrfau 0.0% neu 0.5% sy’n wirioneddol wych eu golwg, gan gladdu o’r diwedd yr hen syniad mai rhywbeth diflas i fodloni arno yn niffyg dim gwell yw cwrw di-alcohol. Gyda’i benglog fflamllyd, Mecsicanaidd ei naws, rhaid mai hwn yw’r cwrw 0.5% mwyaf hipster ar y farchnad.

Mae’n tywallt yn dda, gyda phen sy’n para. Mae ychydig yn gymylog, gyda lliw euraidd hyfryd. O ran y blas, go brin basech chi’n dweud mai cwrw di-alcohol yw hwn. Chwerwder yr hopys sydd yno’n anad dim. Felly, fydd e ddim at ddant pawb, ond os ydych chi wedi mwynhau Innis & None neu Nanny State, dylech chi roi cynnig ar hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​