Shipyard American Low Tide Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Shipyard American Low Tide Pale Ale.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 85 (17 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Wedi’i sefydlu mewn tafarn yn nhalaith brydferth Maine yn 1992, mae Shipyard erbyn hyn yn un o fragdai enwocaf yr Unol Daleithiau. A diolch i gytundeb gyda Marston’s yn Burton-on-Trent, mae eu cwrw ar gael ar draws gwledydd Prydain hefyd.

Cwrw melyn Americanaidd yw prif arbenigedd Shipyard, ac un o’r rheini yw Low Tide. Felly, mae’n llawn hopys, gyda mymryn o sitrws hefyd. Mae’n ysgafn, euraidd, a hyfryd iawn! Mae’n dod mewn potel dwt gyda gwylan annwyl arni hi, a gallwch chi brynu potelaid yn Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​