Southwold Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Southwold Pale Ale

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 65 (13 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Fel Sole Star, cwrw arall yw hwn sydd wedi dod yn llawer llai alcoholaidd yn ddiweddar. Cafodd Southwold ei greu gan Adnams i Marks & Spencer yn gyntaf gyda chryfder o 2.7%. Erbyn hyn mae lawr i 0.5%, gan ei roi yn yr un categori â Big Drop, Erdinger, Nanny State a sawl un arall – nid cwbl ddi-alcohol ond digon dirwestol i lawer.

Yn anffodus, fel y lager brofon ni o Marks & Spencer, mae’r cwrw yma’n siomi braidd, yn enwedig o gymharu â Sole Star o’r un bragdy. Oes, mae ganddo liw brown-goch hardd, ond mae’r gwynt sy’n dod oddi arno fe braidd yn sur. O ran y blas, mae yma hopys ac awgrym tawel o garamel. Mae’n gwneud y tro ond does dim byd cofiadwy iawn yma. Os ydych chi’n hoffi Adnams ac yn fodlon derbyn 0.9% yn lle 0.5%, byddem ni’n awgrymu’r Sole Star yn lle hwn. Os am gael cwrw gwelw llai cryf na hynny, mae digon o opsiynau eraill yma.

Mae’r diwyg yn unol â gweddill cyfres M&S o gyrfau o Brydain (gan gynnwys capan Jac yr Undeb ar y botel), yn yr achos yma gyda llun o oleudy godidog Southwald, sy’n cadw morwyr bant o’r creigiau ers 1887.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​