Thornbridge Zero Five

English | Cymraeg

Ein barn ar Thornbridge Zero Five.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 26 (8 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Un o fragdai newydd mwyaf dyfeisgar Prydain yw Thornbridge. Wedi’i sefydlu yn 2005 ar ystâd diriog ym Mro Bannau Lloegr, daethon nhw yn adnabyddus am greu blasau annisgwyl. Tasech chi’n chwilio am rywun i greu cwrw dirwestol diddorol, mae’n debyg iawn mai atyn nhw basech chi’n troi’n gyntaf.

Daw’r cwrw gwelw yma mewn potel hardd a ddenodd ein sylw’n syth. Mae gan y cwrw tu fewn i’r botel liw euraidd hyfryd, a chryn flas hopys ond dim gormod ohonyn nhw. Mae’r cytbwysedd fwy neu lai’n berffaith. Mae’r croen oren sydd wedi’i ychwanegu yn ystod y bragu yn rhoi iddo adflas pleserus dros ben. Mae hefyd yn nodedig o brin ei galorïau.

Anaml byddwn ni’n rhoi sgôr o 5 allan o 5 i ddiod. Ond gan ein bod ni’n methu meddwl am ddim basen ni’n ei newid am hon, dyma’r unig sgôr sy’n deg.

Cawson ni hi ar werth ym Morrison’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​