BrewDog Raspberry Blitz

English | Cymraeg

Ein barn ar BrewDog Raspberry Blitz

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 28 (9 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Wel, doedden ni ddim yn gwybod beth i’w feddwl am hwn! Fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan Brewdog, cwrw anghyffredin ar y naw yw e.

Mae golwg Tizer arno, a mwy o swigod na Matey. Mae aroglau mafon hyfryd – “mwy o ffrwyth na Thalaith Califfornia” yn ôl y broliant ar y can – a blas anhygoel o chwerw (“gydag awgrym o fromage frais a chroen sitrws” meddan nhw).

Rhaid bod yn onest: doedd yr un o’n panel profi ni’n ei hoffi ar y cynnig cyntaf. Er hynny, o ddod yn ôl ato wedyn, rydyn ni’n dechrau ei werthfawrogi. Mae fel archebu vindaloo ar ddamwain – mae braidd yn llethol ar y cychwyn ond, rhywsut, rydych chi am fwrw ymlaen.

Os ydych chi’n un o’r cwrwgarwyr cŵl sy’n helpu twf cwrw sur ar hyn o bryd, efallai eich bod chi newydd ddarganfod eich hoffi gwrw di-alcohol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​