Big Drop Galactic Milk Stout

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Galactic Milk Stout

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 91 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mater o chwaeth yw dewis diodydd, a dyw pawb ddim yn gwirioni’r un fath. I rai, hen stwff afiach fel tôst wedi’i losgi yw stowt. I rai eraill, mae’n daith benchwiban ar draffordd blasusrwydd. Os ydych chi’n gogwyddo tuag at yr ail safbwynt, dylech chi roi cynnig ar hwn!

Yn ôl yn 2015, penderfynodd Rob Fink roi’r gorau i alcohol, a dechreuodd helfa fawr am gwrw di-alcohol gwerth ei yfed. Fel y rhan fwyaf ohonon ni pryd hynny, chafodd e fawr o hwyl ar hynny. Ond yn lle anobeithio a llefain, aeth Rob ati ar y cyd â Johnny Clayton, gynt o Wild Beer yng Ngwlad yr Haf, i greu ei gwrw ei hunan. Y cwrw du yma oedd ffrwyth cyntaf eu llafur. Wedi’i lansio yn 2016 o dan yr enw Chocolate Milk Stout, cafodd ei ailwampio yn 2020 fel Galactic Milk Stout, gan addo “roced i’r lleuad” i gwrwgarwyr.

O ran gwybodaeth, wedi ymchwilio’n ddyfal, gallwn ni ddweud wrthych chi nad yw milk stout wedi’i wneud o laeth; mae’n cael ei greu â lactos, sef y siwgr sydd i’w gael mewn llaeth. O ran y siocled, math o frag rhost tywyll yw hwnna, ond mae’r cwrw yma hefyd yn cynnwys ffa coco chwâl, i wneud e’n arbennig o siocledus.

O’r holl gyrfau di-alcohol buon ni’n eu blasu, mae hwn yn un o’r mwyaf tebygol o wneud i chi amau mai cwrw alcoholaidd sydd gyda chi yn eich gwydryn. Faint bynnag o ddyfnder blas mae rhai cyrfau eraill yn ei gael o alcohol, mae hwn yn ei gael e o rywle arall. Efallai mai’r ffa coco yw e. Efallai ’fod e wnelo rywfaint â’r ffaith nad yw’r cwrw yma wedi’i fragu ac wedyn ei ddad-alcoholeiddio. Cafodd ei fragu fel unrhyw gwrw arall, ond o ran yr alcohol chryfhaodd e ddim tu hwnt 0.5%. Sut bynnag, maen nhw’n ei wneud, maen nhw’n ei wneud e’n dda.

Cewch chi ei bryn ar-lein trwy Dry Drinker, ac mae hefyd ar werth yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​