Big Drop Kinzig Gateau Stout

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Kinzig Gateau Stout

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5

Mae’r cwrw du yma gan Big Drop yn dwyn i’r cof yr hen Deisen Fforest Ddu oedd mor boblogaidd yn yr 1970au. Yn ôl y sôn, cafodd y gacen enwog ei dyfeisio gan Josef Keller, teisennwr mewn caffi ar gyrion dinas Bonn. Mae’n debyg y byddai’r cwrw yma wedi bod at ddant yr hen Josef hefyd.

Os ydych chi’n hoffi stowt ond yn chwilio am rywbeth mymryn yn wahanol, does dim rhaid i chi chwilio ymhellach. Mae’r cyfuniad o hufen, ceirios a siocled yn gweithio’n rhagorol. Mae fel pwdin moethus mewn gwydryn, ac fyddwch chi ddim yn gweld eisiau’r alcohol o gwbl!

Nid yw cwrw du at ddant pawb wrth gwrs, ond efallai ei bod hi’n bryd i chi roi cynnig ar un. Os ydych chi am ymgolli’n llwyr yn y thema ’70aidd, ychwanegwch goctel corgimychiaid a stecen yn null y Berni Inn hefyd. Blasus!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​