Big Drop Off-Piste Hazelnut Porter

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Off-Piste Hazelnut Porter

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 85 (26 per 100ml)
Sgôr: 2 out of 5

A ninnau’n hoff dros ben o’r Galactic Milk Stout, o fragdy Big Drop, roeddem ni’n awyddus iawn i roi cynnig ar y cwr cnau cyll yma, wedi i ni dod o hyd iddo trwy Drydrinker.

I’r rhai sydd ddim gyfarwydd â’r holl gategorïau cwrw amrywiol, diod debyg i stowt yw porter. Mae blas porter, o bosib, yn fwy ffrwythus a llai rhost, ond cwrw du ydyn nhw ill dau. Daearyddiaeth, yn anad dim, sy’n eu gwahanu. Daw stowt yn wreiddiol o Iwerddon. Mae gwreiddiau porter i’w cael ymhlith porthorion dociau Llundain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – felly’r enw! Roedd cred ymhlith y rhai a ddadlwythai longau’r brifddinas fod cwrw tywyll yn eu nerthu at eu gwaith trwm. P’run bynnag yw e – stowt neu borter – gallwch chi edrych ymlaen at flasau mawr, cofiadwy.

Felly, gan fod y Galactic Stout mor rhagorol, dylai’r Porter Cnau Cyll hefyd fod ffantastig. Yn anffodus, nid dyna oedd profiad ein panel profi. Mae golwg hyfryd arno wrth ei dywallt, ond roedd hi’n anodd dirnad blas cnau ac roedd y ddiod at ei gilydd braidd yn denau – heb ddim o’r blasau cryf a chymhleth sydd gan ambell gwrw du arall o’r un cryfder. Mymryn o siom, rhaid dweud.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​